Mae’r adnodd hwn yn cefnogi’r sawl sy'n rhoi arweiniad i fyfyrwyr ynghylch arferion academaidd da y gallent roi ar waith wrth ymateb i'w ffynonellau ac ysgrifennu amdanynt gan osgoi llên-ladrad. Wedi’i gynnwys o fewn yr adnodd hwn ceir y canlynol: Arweiniad ar ffurf canllaw i addysgwyr ynghylch cyflwyno arferion academaidd da sy’n gysylltiedig ag osgoi llên-ladrad; Deunyddiau ar-lein (cyflwyniadau Sway a chwisiau) y gellir eu rhannu yn uniongyrchol gyda myfyrwyr; a Thaflenni gwaith y gellir eu rhannu gyda myfyrwyr. Nod canolog yr adnodd hwn yw darparu man hwylus i addysgwyr fedru troi ato am gymorth ac arweiniad sy’n fodd o’u harfogi â syniadau ymarferol ar gyfer gweithdai yn ogystal â deunyddiau rhyngweithiol i’w rhannu â myfyrwyr. Dr Leila Griffiths Mae Dr Leila Griffiths yn Gynghorwr Astudio (cyfrwng Cymraeg) yng Nghanolfan Sgiliau Astudio, Prifysgol Bangor. Mae wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm sy’n anelu at gynorthwyo israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig i ddatblygu’r strategaethau a’r prosesau a fydd yn gymorth i fyfyrwyr fanteisio i’r eithaf ar eu hastudiaethau. Mae gan Leila brofiad o gydweithio’n agos gydag adrannau academaidd i gefnogi ac ategu’r ddarpariaeth pwnc-benodol o fewn y disgyblaethau, ac i ledaenu arferion da. Mae ffrwyth ei phrofiad o gydweithio gydag adrannau i ddatblygu’r cwricwlwm a datblygu modiwl sgiliau i’r Coleg Cymraeg wedi cael ei gyhoeddi yma yn ddiweddar. Yn ychwanegol i’r ddarpariaeth o fewn adrannau, mae’r Ganolfan hefyd yn darparu apwyntiadau unigol wyneb-yn-wyneb (fel arfer), dros y ffôn neu dros Teams, cymorth mathemateg ac ystadegau, yn ogystal â gweithdai generig a chanllawiau astudio ar-lein i fyfyrwyr ar bob lefel astudio.
Osgoi llên-ladrad: Ysgrifennu academaidd effeithiol [canllaw i addysgwyr], Dr Leila Griffiths
Esboniadur Newyddiaduraeth
Mae’r Esboniadur Newyddiaduraeth yn dod â gwahanol ddiffiniadau a chysyniadau newyddion, newyddiaduraeth a’r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt ynghyd mewn adnodd hawdd i'w ddefnyddio.
Anwen Jones, Perfformio dinasyddiaeth: Sisters, cynhyrchiad ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon The...
Prif amcan yr erthygl hon yw gofyn sut mae dinasyddion Cymru fodern yn defnyddio’r adnoddau theatraidd sydd ar gael iddynt er mwyn archwilio a mynegi eu hunaniaethau a’u profiadau cenedlaethol. Man cychwyn y drafodaeth fydd cynhyrchiad o’r enw Sisters, prosiect ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon Theatre Mumbai. Mae Sisters yn ysgogi trafodaeth am ddulliau newydd o greu ac o gyfranogi o theatr sydd yn ymateb yn greadigol i heriau cymdeithas fyd-eang, ddigidol ac ôl-gyfalafol yr unfed ganrif ar hugain. Wrth drin a thrafod y cynhyrchiad a’i gyd-destun, defnyddir gweledigaeth gignoeth Johannes Birringer o theatr gyfoes fel gweithgarwch trawsffurfiannol sy’n canolbwyntio ar gyd-greu anhysbys a dadwreiddiedig fel canllaw i fesur llwyddiant ac arwyddocâd Sisters. Dadleuir hefyd fod yr union amgylchedd cymdeithasol a ysgogodd weledigaeth Birringer yn rhoi pwysigrwydd ffres ar ddadl Amelia Jones am werth ymateb i gynhyrchiad neu berfformiad trwy gyfrwng tystiolaeth eilaidd, neu falurion, chwedl Matthew Reason.
Astudio'r Gymraeg TGAU Ail Iaith
Dyma gasgliad o adnoddau ar gyfer disgyblion ac athrawon TGAU Cymraeg Ail Iaith. Mae’r adnoddau, sy’n berthnasol i’r fanyleb yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth wrth i chi addasu i ffordd newydd o ddysgu ac addysgu mewn cyfnod di-gynsail ym myd addysg yng Nghymru. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd amrywiol megis clipiau fideo, deunyddiau hyrwyddo a dolenni i wefannau allanol.
Astudio'r Gymraeg TGAU Iaith Gyntaf
Dyma gasgliad o adnoddau ar gyfer disgyblion ac athrawon TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf. Mae’r adnoddau, sy’n berthnasol i’r fanyleb yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth i chi addasu i ffordd newydd o ddysgu ac addysgu mewn cyfnod di-gynsail ym myd addysg yng Nghymru. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd amrywiol megis clipiau fideo, deunyddiau hyrwyddo a dolenni i wefannau allanol. Yn benodol mae casgliad ‘Y Gymraeg Ar-lein’ yn cynnwys fideos ble mae Aneirin Karadog, Mererid Hopwood, Rhys Iorwerth ac Hywel Griffiths yn trin a thrafod y cerddi TGAU.
Astudio'r Gymraeg Lefel A Ail Iaith
Dyma gasgliad o adnoddau ar gyfer disgyblion ac athrawon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith. Mae’r adnoddau, sy’n berthnasol i'r fanyleb yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth wrth i chi addasu i ffordd newydd o ddysgu ac addysgu mewn cyfnod di-gynsail ym myd addysg yng Nghymru. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd amrywiol megis clipiau fideo, deunydd hyrwyddo a dolenni i wefannau allanol.
Astudio'r Gymraeg Lefel A Iaith Gyntaf
Dyma gasgliad o adnoddau ar gyfer disgyblion ac athrawon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf. Mae’r adnoddau, sy’n berthnasol i'r fanyleb yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth wrth i chi addasu i ffordd newydd o ddysgu ac addysgu mewn cyfnod di-gynsail ym myd addysg yng Nghymru. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd amrywiol megis clipiau fideo, deunyddiau hyrwyddo a dolenni i wefannau allanol.
Addysgu Ar-lein gyda MS Teams (Gweithdy gan Dyddgu Hywel)
Bydd y gweithdy hwn o fudd i unrhyw un sydd am ddatblygu ac adeiladu ar ddulliau addysgu ar-lein, dysgu arloesol, cyflwyno ar-lein ac ymgysylltu gyda myfyrwyr. Amcanion y gweithdy Mabwysiadu sgiliau addysgu effeithiol ar-lein Cyflwyno yn effeithiol trwy Microsoft Teams Arwain gweithgareddau gwaith grwp yn ystod seminarau ar-lein Cynnwys y gweithdy (cyfres o 3 cyflwyniad fideo isod) Cyflwyniad 1 - Cyfathrebu gyda myfyrwyr trwy Teams Cyflwyniad 2 - Addysgu ar-lein trwy Teams Cyflwyniad 3 - Grwpiau Trafod yn Teams Ar ddiwedd y gweithdai hyn dylai hyfforddeion fod yn: gyfforddus wrth addysgu ar-lein hyderus wrth arwain gweithgareddau a thasgau ar-lein gyfforddus wrth ddefnyddio’r holl offer o fewn rhaglen Teams Cefndir y Cyflwynydd Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu a myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg.
Pam astudio'r Gymraeg fel pwnc?
Dyma gasgliad o adnoddau sy’n pwysleisio buddion astudio’r Gymraeg fel pwnc. Mae’r adnoddau yn annog disgyblion i barhau i astudio’r Gymraeg fel pwnc UG/Safon Uwch ac fel gradd prifysgol. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd amrywiol megis clipiau fideo, dogfennau a dolenni i wefannau allanol. Mae’r adnoddau yma yn rhan o gasgliad o adnoddau sy'n cynnig cefnogaeth ac anogaeth i ddisgyblion ac athrawon y Gymraeg.
Adnodd hyfforddi i gefnogi gweithio dwyieithog: Urddas, iaith a gofal
Mae’r pecyn canlynol ar gyfer unigolion sy’n dymuno cyflwyno sesiwn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i’w dysgwyr. Hyd y sesiwn yw un awr. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer: myfyrwyr Lefel 1, 2, 3, 4 a 5 iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant tiwtoriaid ac aseswyr mewn colegau myfyrwyr gofal/gwaith cymdeithasol neu ofal plant mewn prifysgolion. Mi allai hefyd gael ei ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant mewn swydd ar gyfer gweithwyr yn y meysydd uchod a gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru. Nod y pecyn yw arfogi hyfforddwyr i gyflwyno gwybodaeth am iaith a thrafod sut i weithio’n ddwyieithog gyda’u dygwyr. Cyflwynir y pecyn ar ffurf PowerPoint gyda nodiadau hyfforddwr i gefnogi pob sleid. Mae’r nodiadau hyfforddwr yn cyflwyno sgript arweiniol, yn ogystal ag yn cynnig ambell i syniad am sut i gyflwyno tasgau ac annog y dysgwyr i fod yn rhagweithiol yn y sesiwn. Datblygwyd yr adnoddau gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Iechyd a diogelwch ar y fferm
O fewn fframwaith City & Guilds mae’n hanfodol i fyfyrwyr astudio’r uned ‘Principles of health and safety’. Pwrpas yr adnodd yma galluogi’r myfyrwyr i ddeall egwyddorion iechyd a diogelwch a sut y medrir gweithredu safonau iechyd a diogelwch o fewn y sector amaeth. Mae’r adnodd yn tanlinellu’n glir ac yn weledol bwysigrwydd iechyd a diogelwch ar y fferm trwy gyflwyno ystadegau a deddfwriaethau iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i’r diwydiant amaeth, gwerthuso goblygiadau damweiniau ar y fferm a dangos enghreifftiau o arfer dda er mwyn lleihau nifer o ddamweiniau. Mae’r adnodd hwn wedi cael ei greu neu ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.
Llygredd a gwastraff mewn amaeth
Mae’r adnodd hwn yn cefnogi uned 316 sef ‘Pollution and waste control management’ o’r cymhwyster City and Guilds: ‘Advanced Technical Extended Diploma’ in Agriculture (Lefel 3). Bydd yn gwella dealltwriaeth y dysgwyr am y llygredd mae’r diwydiant amaethyddol yn ei greu a sut mae modd rheoli gwastraff yn effeithiol ac ymarferol. Mae’r deunydd yn dangos sut i ddelio gyda gwastraff amaethyddol, mae’n helpu myfyrwyr i ddeall beth yw ystyr gwastraff organig ac anorganig, ac mae’n helpu myfyrwyr i adnabod y deddfwriaethau a’r cod ymarfer perthnasol ar gyfer rheoli gwastraff amaethyddol. Mae’r adnodd hwn wedi cael ei greu neu ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.